Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae staff yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd gofalgar, ysgogol a diogel lle gall plant 2-3 oed fod yn hapus ac yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion gyda'r nod o wella canlyniadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio, paratoi a hwyluso dysgu trwy weithgareddau chwarae o safon mewn partneriaeth â rhieni.
Mae'r plant yn derbyn gofal yn yr ystafell flynyddoedd cynnar dynodedig yn y Ganolfan Integredig Plant sydd â thoiledau cyfagos gyda chyfleusterau newid cewynnau, cegin ac ardal y tu allan. Gall plant ddefnyddio gofod arall yn y ganolfan yn ddarostyngedig i ofynion cofrestru.