Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Bydd y prif ffocws ar gefnogi pobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed ym Mro Morgannwg. Prif nodau’r cymorth yw magu hyder a gwydnwch, gwella lles emosiynol a chymdeithasol a gwarchod rhag profiadau andwyol eraill plentyndod. Bydd y gwasanaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial.