Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Cyrsiau Sgiliau Hanfodol a TG ar gyfer oedolion sydd am ennill cymhwyster, gwella sgiliau darllen, ysgrifennu, sillafu, cyfathrebu a mathemateg. Rydym yn addysgu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer gwaith, chwilio am waith, CVs, bywyd yn gyffredinol a chefnogi plant yn yr ysgol. Rydym hefyd yn darparu cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Ymarfer ac astudio'r iaith sydd ei hangen i ymgartrefu yn y DU, ar gyfer gwaith ac addysg neu i gwrdd â ffrindiau newydd a chymdeithasu. Mae ein hamserlen yn cynnig dysgu hyblyg i gyd-fynd â ffyrdd prysur o fyw. Caiff dosbarthiadau eu lefelu yn ôl angen a gallu ar adegau/diwrnodau sy'n addas i bawb
Unrhyw un dros 16 oed.
Mae'n dibynnu - Am ddim ar gyfer cyrsiau Sgiliau Hanfodol a TGCh. Mae cyrsiau ESOL am ddim i ffoaduriaid/ceiswyr lloches. Mae ffioedd cofrestru ESOL eraill yn cychwyn o gyn lleied ag £20 yn dibynnu ar statws. Dewch â'ch pasbort i'w wirio.
Unrhyw un – dim angen atgyfeiriad. Ffoniwch i wneud apwyntiad am sgwrs anffurfiol, asesiad neu daith gyflym o amgylch y Ganolfan.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/working/adult_and_community_learning/Get-Back-on-Track/Get-Back-on-Track.aspx
Vale Learning CentreFirst Floor Barry LibraryKing SquareBarryCF63 4RW
Vale Learning CentreFirst Floor Barry LibraryKing SquareBarryVale of GlamorganCF63 4RW
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru