skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ringland Library Story Club - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Diweddariad diwethaf: 21/05/2024
Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae annog plentyn i fwynhau darllen o oedran ifanc yn effeithio'n gadarnhaol ar ei ddatblygiad ac mae’n eu helpu i wella ei gyflawniad addysgiadol. Mae hefyd yn ffordd ragorol o gael hwyl a sbri i blant a’u teuluoedd.
Mae Clybiau Stori'n amgylchedd llawn gwybodaeth a chyffro i helpu rhieni i gynnal diddordeb eu plant cyn ysgol mewn darllen. Dewch i un o’n llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan i gwrdd â ffrindiau, i wneud ffrindiau ac i fwynhau gweithgaredd difyr am ddim gyda'ch plentyn gan eu hannog i fwynhau darllen ar hyd eu hoes.

Ym mhob Clwb Stori mae modd i blant a’u gofalwyr ganu caneuon a rhigymau, gwrando ar storïau a mwynhau gweithgaredd crefft cysylltiedig â thema stori'r wythnos, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim.

Dim ond yn ystod y tymor mae Clwb Stori’n cael ei gynnal.