Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Rydym yn dîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n darparu gwasanaeth i bobl y mae ganddynt faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac y maent yn byw ym Mro Morgannwg. Gallwn:• Ddarparu gofal a chymorth i unigolion yn eu cartref• Trefnu gofal mewn lleoliad nyrsio, preswyl• Hwyluso trefniadau i ryddhau unigolion o'r ysbyty• Trefnu bod rhywun yn cael eu hanfon i'r ysbyty ar frys• Adolygu ac ailasesu'r ddarpariaeth gofal bresennol• Asesu ac ymyrryd mewn sefyllfaoedd lle y gallai Oedolyn Agored i Niwed fod mewn perygl• Darparu cyngor a chymorth i ofalwyr a theuluoedd• Cyfeirio at asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill
Mae'n Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnig gwasanaeth i bobl rhwng 18 a 65 oed sy'n byw ym Mro Morgannwg, neu os ydych yn ofalwr sy’n cefnogi oedolyn neu oedolion ag anghenion gofal a chymorth.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Mae'n dibynnu - Os ydych yn gymwys i gael cymorth ac os ydych yn dymuno i'r gwasanaethau cymdeithasol ddarparu eich gofal, rhaid i chi gael asesiad ariannol fel bod modd i'r cyngor benderfynu faint, os o gwbl, y dylech chi ei gyfrannu tuag at gost eich gofal.
Cyfeirir unigolion trwy'r meddyg teulu fel arfer. Rydym yn derbyn hunan-gyfeiriadau hefyd os bydd pobl wedi bod yn agored i CMHT yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/Index.aspx
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru