skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Bro Morgannwg - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 13/11/2023
Iechyd Cymunedol
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Bro Morgannwg yn cynorthwyo pobl yn y gymuned i gynnal ac i addasu eu hamgylcheddau byw er mwyn sicrhau eu bod mor annibynnol a diogel ag y bo modd, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau lles.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o Therapyddion Galwedigaethol sy'n cynnig asesiadau ac ymyriadau er mwyn hyrwyddo hyder a sgiliau pobl wrth iddynt gyflawni eu gweithgareddau dyddiol. Yn ogystal, maent yn nodi ac yn gwaredu rhwystrau amgylcheddol i annibyniaeth trwy gyfrwng addasiadau yn y cartref.