Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Oedolion sy’n 18+ oed ac sy’n byw ym Mro Morgannwg
- y rhai sy’n gofalu am oedolion 18+ oed (gofalwyr)
Mae’n fwy tebygol y cewch eich asesu fel rhywun y mae angen gofal a chymorth arno os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
• rydych yn hŷn ac yn fregus
• mae gennych anabledd corfforol neu ddysgu
• mae gennych broblem iechyd meddwl
• rydych yn agored i niwed oherwydd rhesymau eraill fel
• problem gyda chamddefnyddio alcohol neu sylweddau
• nid ydych yn gallu amddiffyn eich hun rhag niwed
Neu rydych yn ofalwr sy’n cefnogi oedolyn neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Mae’r gwasanaeth yn gweithredu fel pwynt mynediad sengl (SPoA) ar gyfer Bro Morgannwg.