skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Bro Morgannwg ar gyfer Pobl Hŷn - Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl

Diweddariad diwethaf: 07/05/2024
Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Bro Morgannwg ar gyfer Pobl Hŷn yn dîm amlddisgyblaethol, o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys iechyd meddwl a seiciatryddion.

Mae’r tîm yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd arbenigol i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl dros 65 oed gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau arbenigol y GIG i feithrin gwytnwch ac adferiad unigolion hŷn yn ein cymuned sy'n wynebu heriau iechyd meddwl. Mae'r tîm wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfannol a phersonol, gan sicrhau bod pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei ddeall a'i barchu drwy gydol ei daith tuag at adferiad iechyd meddwl. Rydym yn cydnabod unigrywiaeth llwybr pob unigolyn ac yn teilwra ein hymyriadau i ddiwallu eu hanghenion penodol, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo annibyniaeth, lles ac ansawdd bywyd.