skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Tîm o Amgylch y Teulu - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 04/04/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Tîm o Amgylch y Teulu yn rhan o ddarpariaeth Cymorth Gynnar Bro Morgannwg sy'n cefnogi Plant, Pobl Ifanc (0-18 oed) a'u Teuluoedd, a allai elwa o gymorth ychwanegol i oresgyn anawsterau a gwneud newidiadau cadarnhaol. Byddwn yn cwblhau Asesiad Lles i nodi cryfderau yn ogystal ag anawsterau ac yn cynnig gwaith uniongyrchol gyda rhieni, plant a phobl ifanc pan fo hynny'n berthnasol. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill er mwyn cael y cymorth gorau i ddiwallu'r anghenion a nodwyd.