skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - Tîm Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau - Diogelwch cymunedol

Diweddariad diwethaf: 17/11/2023
Diogelwch cymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Nid ymwneud â'r adeilad yr ydych yn byw ynddo yn unig mae diogelwch yn y cartref. Rydym yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau eich bod mor ddiogel ag y gallwch fod yn eich cartref eich hun. Yn ystod yr ymweliad gallwn edrych ar y cartref, y person, a'u hymddygiadau.

Mae’r pynciau rydym yn ymdrin â nhw yn cynnwys: Diogelwch yn y gegin, Diogelwch trydanol, Ysmygu, Tanau cludadwy a thanu agored, larymau mwg, gwres a CO, trefn amser gwely, llwybrau dianc, celcio, cwympo ac atal trosedd

Os bydd unrhyw un angen ymweliad, bydd yn cymryd tua 30 munud a byddwn yn rhoi addysg a chyngor, yn ogystal â gosod synwyryddion mwg, gwres a Charbon Monocsid am ddim lle nodir risg. Mae larymau ar gael hefyd i bobl fyddar neu bobl sy’n drwm eu clyw.

Drwy gofrestru eich gwybodaeth gyswllt gall Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gysylltu ar y ffôn, drwy law e-bost neu neges destun i drafod eich anghenion a threfnu ymweliad diogelwch yn y cartref am ddim os bydd angen.