skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Mabwysiadu y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 25/04/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn un o bum grŵp cydweithredol rhanbarthol sy'n ffurfio rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru, ac yn gyfrifol am:
1. Ddarparu gwybodaeth a chyngor a chynnal hyfforddiant ac asesiadau o'r holl ddarpar rieni maeth.
2. Cynnal asesiadau o lys-rieni a pherthnasau sy'n mabwysiadu.
3. Chwilio am leoliadau er mwyn bodloni anghenion yr holl blant yn yr ardal ranbarthol y mae angen iddynt gael eu mabwysiadu.
5. Darparu gwasanaeth cymorth i deuluoedd sy'n mabwysiadu cyn iddynt fabwysiadu ac ar ôl iddynt fabwysiadu.
6. Darparu gwasanaeth ar gyfer yr oedolion hynny y maent wedi cael eu mabwysiadu ac y maent yn chwilio am eu cofnodion geni a'r rhai y maent yn dymuno chwilio am eu perthnasau biolegol.
7. Darparu gwasanaeth cyfryngol i berthnasau sy'n dymuno cysylltu â'r unigolyn a gafodd eu mabwysiadu.