skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Taliadau Uniongyrchol – Bro Morgannwg - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 05/04/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Taliadau Uniongyrchol (TU) yn ffordd amgen o gael gwasanaeth gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg. Mae TUau yn rhoi mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu pecyn gofal, gan bod modd iddynt benderfynu pryd, ble a chan bwy y caiff eu hanghenion gofal eu bodloni. Mae TUau yn galluogi pobl i brynu eu gofal cymunedol neu eu gwasanaethau cymorth eu hunain e.e. cymorth gyda gofal personol, cymorth i fanteisio ar weithgareddau hamdden yn y gymuned, seibiant i ofalwyr. Mae nifer o bobl yn dewis cyflogi Cynorthwyydd Personol i'w helpu i fodloni eu hanghenion, er nad dyma'r unig ffordd y mae modd iddynt gael eu defnyddio. Mae'r swm y bydd y defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael yn seiliedig ar eu hasesiad o angen ac fe'i telir yn unol â chyfradd yr awr ar gyfer diwrnodau'r wythnos a phenwythnosau.