Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae unigolion 16 mlwydd oed a hŷn sy’n gymwys i gofrestru ar y cyrsiau hyn yn cynnwys:
•y rhai nad ydynt ar hyn o bryd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, sy’n derbyn budd-dal neu gymorth gan y wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeol y wladwriaeth) ac sy'n chwilio am waith.
•y rhai sydd dros 50 oed nad ydynt mewn cyflogaeth lawn amser ac sy’n chwilio am waith;
Rydym hefyd yn croesawu cofrestriadau gan y rhai sydd ag ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol, ac mae croeso i atgyfeiriadau gan sefydliadau ac elusennau'r Trydydd Sector sy'n cefnogi unigolion yn ôl i addysg a gwaith hefyd. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2087 2030.
Os ydych am gofrestru ar un o'r cyrsiau hyn ond nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.