Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r cyrsiau hyn ar gyfer pob dysgwr 16+ oed.
SUT I GOFRESTRU:
Cofrestrwch dros y ffôn: ffoniwch y tîm ar 02920 872030.
Rydym yn derbyn taliad drwy gerdyn debyd neu gredyd.
Cofrestrwch yn bersonol:
Canolfan y Celfyddydau Neuadd Llanofer, Heol Romilly, Treganna, CF5 1FH
Ar agor ar gyfer cofrestru o ddydd Llun i ddydd Iau 10am – 2pm. Gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn neu siec (sieciau'n daladwy i Gyngor Caerdydd)
Gallwch nawr hefyd Gofrestru yn eich Hyb/Llyfrgell leol a fydd yn gallu eich helpu i gofrestru ar-lein – taliad drwy gerdyn credyd neu ddebyd.
Cyflwynir rhai cyrsiau'n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, gweler prosbectws y cwrs ar-lein i gael rhagor o wybodaeth.