skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cardiff Flying Start Parenting Group - GroBrain - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 18/03/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

. Yn ystod y cwrs 5 wythnos bydd y cyfranogwyr yn edrych ar bynciau’n cynnwys:
• Sut mae'r ymennydd yn cael ei ysgogi gan brofiadau a pherthnasau cynnar.
• Effaith straen ar ymennydd babi.
• Sut i nodi ciwiau ac arwyddion eich babi ac ymarfer ffyrdd o gysuro babi.
• Sut i reoli emosiynau eich babi.
• Sut i greu perthynas gyda'ch babi.
• Tylino babis.
• Edrych ar sut mae dewisiadau deiet a ffordd o fyw yn ystod beichiogrwydd yn cysylltu â datblygiad ymennydd babi.
Bydd 5 sesiwn 2 awr gyda seibiant ar gyfer lluniaeth ym mhob sesiwn.
• Argymhellir eich bod yn mynychu pob un o’r pum sesiwn er mwyn cael y gorau o'r rhaglen.
• Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.
• Cyflwynir y rhaglen yn anffurfiol gyda grwp o tua 10 rhiant.
• Mae pob grŵp yn cynnig crèche sy'n cael ei redeg gan staff cymwys a phrofiadol, neu mae croeso i chi fynychu gyda'ch babi.