skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Rhaglen Magu Plant - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 24/11/2023
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Rhaglen Magu Plant o Family Links yn credu bod plant yn rhoi
boddhad, yn ysbrydoli ac yn hwyl, ond gall eu gwarchod fod yn llawn straen a heriau. Mae’r Rhaglen Fagu yn helpu i ddelio gyda’r heriau hyn fel y gallwch gael bywyd teuluol tawelach a hapusach. Nodau’r Rhaglen Magu yw helpu oedolion i ddeall a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad a bod yn fwy cadarnhaol a meithringar yn eu perthynas â’u plant a’i gilydd. Mae’n annog agwedd at berthnasau sy’n rhoi i blant ac oedolion dechrau emosiynol iach yn eu bywydau a’u dysgu.
Dros y 10 wythnos byddwch yn edrych ar bynciau’n cynnwys:
• Deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn
• Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiadau (ein rhai ni a’u rhai nhw)
• Ystyried dulliau gwahanol o ddisgyblaethu
• Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth
ymysg plant
• Pwysigrwydd edrych ofalu am ein hunain