skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Coleg Sir Gâr - Addysg Gymunedol

Diweddariad diwethaf: 19/04/2024
Addysg Gymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn gweithio’n galed yn y Coleg i sicrhau bod yr amser rydych yn treulio gyda ni yn: Gyffrous, hwyl ac yn bwysicaf, yn darparu gwybodaeth, cyfleoedd a sgiliau bywyd trosglwyddadwy sy'n galluogi chi i symud ymlaen i gyflogaeth neu lefelau dysgu uwch.

Mae’r Coleg, sy’n cwmpasu ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yn cynnig ystod eang o gyrsiau: Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu’n Seiliedig ar Waith a chyrsiau masnachol o lefel Mynediad drwodd i lefel Gradd. Mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a galwedigaethol.

Mae’r Coleg yn rhan o bartneriaeth sector deuol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n darparu llwybrau dilyniant dwyieithog ar gyfer y dysgwyr hynny sydd am aros yn lleol i astudio. Yn ogystal â gweithio gydag ysgolion lleol i gynnig darpariaeth alwedigaethol yn wythnosol i ddisgyblion 14-16 oed.