skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Youth Clubs in the Vale of Glamorgan - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Diweddariad diwethaf: 10/01/2024
Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn gweithredu sawl clwb ieuenctid ledled Bro Morgannwg sydd ar gael i bobl ifanc 11-25 oed. Mae’r clybiau ieuenctid hyn yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wneud ffrindiau a chael hwyl mewn amgylchedd diogel. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau o chwaraeon, coginio, i gelf a chrefft a llawer mwy!
Mae pobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i ennill cymwysterau ar lawer o bynciau gwahanol, ac fel rhan o Wobr Dug Caeredin.
Hefyd ar gael i bobl ifanc mae'r cyfle i fynd ar deithiau, tripiau preswyl a chyfleoedd gwirfoddoli. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o bob oed i helpu i gynnal ein gweithgareddau, yn enwedig cyn-aelodau!
Rydym yn gweithio mewn cymunedau lleol i redeg ein clybiau y mae rhai ohonynt yn cael eu cefnogi gan ein partneriaid, gan gynnwys clwb ieuenctid anabledd mewn partneriaeth â Vale People First a chlwb ieuenctid Cymraeg mewn partneriaeth â'r Urdd. Rydym yn falch o gynnal ystod amrywiol o glybiau ieuenctid.