skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ysgol Feithrin Pontypwl - Grwp chwarae

Diweddariad diwethaf: 03/04/2024
Grwp chwarae Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg

Mae'r adnodd hwn wedi'i rheoleiddio. (Mwy am Wasanaethau Rheoleiddiedig)

CSSIW Logo
Mae'r darparwr wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu yn cyfatebol.
Cafodd y darparwr arolygiad ar: 08/03/2022.

  Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag rhan-amser i blant o oedran 2.5 blynyddoedd a 5 blynyddoedd. Os oes gennych diddordeb yn ein Meithrinfa gofynnir ichi gysylltu a ni am sgwrs cyn gynted a phosibl. Gallem esbonio'r drefn ac ateb unrhyw gwestiynau a gwneud apwyntiad i'ch dangos o gwmpas. Rydym wrth ein boddau yn croesau teuluoedd newydd felly beth amdani? Cysylltwch heddiw trwy anfon e bost at Helen yr Arweinydd hgglynebwy@gmail.com

  Mae'r darparwr hwn wedi'i gofrestru ar gyfer 19 o leoedd ac mae ganddo staff ar gyfer 19 lle.

Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Cylchoedd Meithrin yn grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg. Sefydlwyd Ysgol Feithrin Pontypwl dros 4o mlynedd yn ol ac ydym yn gweithio yn agos iawn gyda'r teuluoedd sydd ar ein cofrestr ac yn rhan bwysig o gymuned tref Pontypwl. Hen Neuadd Eglwys yw'r lleoliad yng nghanol y dref ac fe gafodd ei adnewyddu i'n pwrpas ni 10 mlynedd yn ol. Mae gofod mawr olau tu fewn ac ardal chwarae eang tu allan. Rydym yn cynnig gofal sesiynol a gofal dydd tridiau'r wythnos. Mae gennym clwb brecwast a chlwb cinio a Chylch Ti a Fi bore Iau. Mae 22 o blant ar ein cofrestr ond ni cheir mwy na 19 yn ystod unrhyw sesiwn. Rydym yn annog teuluoedd i roi enwau eu plant lawr yn gynnar er mwyn bod yn sicr o le. Mae gan y 6 aelod o staff flynyddoedd o brofiad. Mae'r Arweinyddes yn Gymraes ac mae'r 3 aelod o staff yn ddysgwyr da iawn ac yn defnyddio'r Gymraeg gyda'r plant trwy'r amser. Mae ein brwdfrydedd, a'n cyfeillgarwch yn heintus ac rydym yn aml yn cadw cysylltiad a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.

  Ein oriau agor ac argaeledd

Rydym ar gael: tymor ysgol yn unig. Mae Ysgol Feithrin ar agor 5 diwrnod yr wythnos gan ddilyn holl canllawiau'r Llywodraeth. Rydym wedi gosod systemau glanhau trylwyr yn eu lle. Cysylltwch a ni am fwy o fanylion.ac i drefnu ymweld a'r lleoliad.

Rydym are gael yn ystod y tymhorau ysgol canlynol:

  • Tymor y gwanwyn
  • Tymor yr haf
  • Tymor yr hydref

Ni allwn darparu gofal cofleidiol..

Dydd Llun 08:30 - 15:15
Dydd Mawrth 08:30 - 12:00
Dydd Mercher 08:30 - 15:15
Dydd Iau 08:30 - 12:00
Dydd Gwener 08:30 - 15:15

Rydym yn cynnig Clwb Brecwast rhwng 8.30am - 9.30am ac yn darparu 'r bwyd. Rydym yn cynnig Clwb Cinio rhwng 12pm -12.45pm ac mae'r plant yn dod a phecyn bwyd. Mae'r plant yn gallu dewis rhwng gofal sesiynol bob dydd neu gofal trwy'r dydd ar ddydd Llun a Mercher

  Ein costau

  Am ein gwasanaeth

Yn ein lleoliad rydym yn siarad Cymraeg yn unig.

Mae gan y darparwr fynediad i gefnogaeth a chyngor am Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae gan y darparwr wybodaeth weithiol o Ddeddf ADY a dulliau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion
Mae staff wedi cael hyfforddiant perthnasol (at gefnogi plant ac anghenion dysgu ychwanegol/anabledd) yn y 2 flynedd diwethaf?
Man tu allan
Mae gennym gofod amrywiol tu allan/gardd anferth ac adnoddau cyffroes. Defnydd o Barc Pontypwl hefyd
A wnewch ddefnyddio cewynnau go iawn ar gyfer plant yn eich gofal?
Nid oes llawer o blant gennym sydd ddim eisioes yn gallu defnyddio ty bach. Gellir newid cewyn.
Ydy eich lleoliad yn rhydd o anifeiliaid anwes?
Yn ein pwll ddwr tu allan mae gennym pysgod aur a penbwliaid yn y gwanwyn.
Yn paratoi gwasanaethau 'Dechrau'n Deg'?
No
Yn cynnig y Cyfnod Sylfaen Meithrin (addysg ar gyfer plant tair i bedair oed) Yes
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o Gynllun Gofal Plant
Mae'r gwasanaeth hwn yn derbyn talebau gofal plant
Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gofrestru gyda'r Cynllun Gofal Plant Di-dreth
Yn paratoi gofal ar frys/dros gyfnod byr? No
Yn gallu gofalu am blant ble nid Saesneg na Chymraeg yw eu prif iaith
Ysgol Feithrin Pontypwl would certainly wlcome families whose first language is not Welsh or English if they are interested in a Welsh medium education. It is a well known fact that learning more than one language is very easy at an early age. We encourage parents and family members to get involved with the group and we would be interested in learning some new vocabulary with the child!
Yes