skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Camau Cyntaf Maetheg - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 15/12/2023
Iechyd Cymunedol
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae bwyta’n dda yn hanfodol i blant yn eu blynyddoedd cynnar. Mae yna dystiolaeth gadarn fod y 1000 diwrnod cyntaf o fywyd ( 9 mis o feichiogrwydd a’r 2 flynedd gyntaf o fyw) yn arbennig o dyngedfennol ar gyfer sicrhau twf a datblygiad iach a sicrhau fod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial llawn. Mae hefyd yn bwysig fod plant 2-5 oed yn bwyta’n dda i sefydlu patrymau bwyta da, i amddiffyn eu dannedd ac i sicrhau eu bod yn cyrraedd yr ysgol gyda phwysau corff iach ac archwaeth dda ac amrywiol at fwyd.

Ewch i wefan First Steps i gael mwy o wybodaeth am Bwyta’n Dda i’r Rhai Dan 5, syniadau am becynnau cinio, byrbrydau, cynghorion i fwytawyr ffyslyd, diet cynaliadwy i’r blynyddoedd cynnar a llawer mwy.