skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cynnig Gofal Plant - Ceredigion - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 31/01/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant fforddiadwy sydd ar gael ac yn hygyrch yn golygu y gall rhieni weithio neu astudio, gan gefnogi ei hymdrechion i gynyddu twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldeb.

Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cynnig hyd at 30 awr yr wythnos i blant 3 a 4 oed o Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant cofrestredig i rieni sy’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant. Mae'r 30 awr o gyllid yn cynnwys o leiaf 10 awr o Ddysgu Sylfaen a hyd at 20 awr o ofal plant yr wythnos.