Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Teimlo'n orbryderus, isel eich ysbryd, pryderu'n aml?Does dim ots pwy ydych chi, gall bywyd fod yn anodd weithiau. Bydd y cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn yn dangos ffyrdd ymarferol i chi o ddelio â meddyliau a theimladau. Gallai eich helpu i ddarganfod beth sy’n wirioneddol bwysig i chi a rhoi’r sgiliau i chi allu byw eich bywyd gyda mwy o hyder ac ymdeimlad gwell o bwrpas.Cynlluniwyd y cwrs rhad ac am ddim hwn i’ch helpu chi i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant.Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe. Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu. Ar gyfer pob un o'r fideos mae yna ganllaw y gallwch chi ei lawrlwytho, ei argraffu neu gymryd nodiadau arno, a hefyd mae rhai ymarferion sain y gallwch chi wrando arnyn nhw. Gweler ein gwefan: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/bywyd-actif/
Cynlluniwyd y cwrs rhad ac am ddim hwn i’ch helpu chi i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant.
Nac oes
Gall pawb elwa o'r cwrs fideo rhad ac am ddim hwn
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru