Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae Caffes i Rieni yn fenter gyffrous ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer rhieni yng Ngorllewin Morgannwg.Mae’r grwpiau’n cael eu lletya gan rieni yn y gymuned sydd wedi cael eu hyfforddi a’u hachredu, gyda chymorth gan weithiwr proffesiynol. Mae’r lansiad yn creu cyfle wyneb-yn-wyneb ichi gael blas ar fuddion y ffordd yma o weithio, lle gall rhieni a gofalwyr siarad am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae trafodaethau a gweithgareddau’n helpu i adeiladu’r ffactorau amddiffynnol isod sydd wedi profi’n gyfraniad effeithiol at gryfhauteuluoedd:- Cydberthnasau a chysylltiadau cymdeithasol – mae angenffrindiau ar rieni- Gwybodaeth am rianta a datblygiad plant – mae bod yn rhiantyn rhywbeth sy’n rhannol naturiol, ac yn rhannol wedi’i ddysgu- Cefnogaeth sylweddol pan fydd ei hangen – mae angencefnogaeth ar bawb weithiau- Cymhwysedd cymdeithasol ac emosiynol plant – mae angeni rieni helpu eu plant i gyfathrebu
Mae Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni (PAN) a'r Caffis Rhieni ar gyfer rhieni sydd â phrofiad o wasanaethau cymdeithasol/amddiffyn plant.
Nac oes
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fiona neu Anna.
Iaith: Cyfrwng Cymraeg a Saesneg
Canolfan Les AbertaweWalter Road a Burman StreetAbertaweSA1 5PQ
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru