skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cadwch Gymru'n Daclus - Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Amgylcheddol

Diweddariad diwethaf: 22/02/2024
Amgylcheddol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl! Gwnewch gais am becyn AM DDIM #NôliNatur

Trawsnewidiwch ardal i ardd a fydd o fudd i natur a'ch cymuned.
Mae pob pecyn yn cynnwys planhigion, offer a deunyddiau brodorol i wneud eich gardd yn brydferth. Bydd Cadwch Gymru'n Daclus yn delio â'r holl archebion a dosbarthu, a bydd ein swyddogion prosiect yn dod i roi cymorth i'ch helpu i greu eich gofod natur newydd. Mae ein pecynnau eleni yn perthyn i dri gategori:

Pecynnau dechreuol i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy'n dymuno creu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.

Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol sy'n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.

Perllan gymunedol Crëwch hyb awyr agored ar gyfer eich cymuned – gofod yn llawn coed ffrwythau a chnau, planhigion cynhenid a blodau gwyllt, lle gall pobl o bob oed ddod ynghyd.