skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Y Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Diweddariad diwethaf: 23/01/2024
Rhywbeth arall Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Pam ddylech chi gofrestru fel gofalwr di-dâl gyda'ch meddygfa?
* Gall eich meddyg teulu ddeall eich cyfrifoldebau gofalu yn well.
* Mynediad at ‘Arweinydd Gofalwr’ yn y rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu; mae hwn yn aelod dynodedig o staff y practis sydd wedi'i neilltuo i helpu gofalwyr.
* Darparu apwyntiadau mwy hyblyg sy'n adlewyrchu eich rôl ofalu.
* Cynnig pigiad ffliw blynyddol i chi.
* Sgyrsiau am eich iechyd meddwl ac effaith eich rôl gofalu.
* Gwybodaeth am sut i gael asesiad gofalwr a gwiriadau budd-daliadau.
* Cymryd rhan yn y broses o gynllunio gofal y person sy'n cael diagnosis.
* Eich cyfeirio at wybodaeth, cymorth a chefnogaeth, naill ai nawr neu yn y dyfodol.
* Posibilrwydd i drefnu apwyntiadau ‘dwbl’ ar adegau cyfleus i chi a’r person rydych yn gofalu amdano er mwyn osgoi gorfod ymweld â’r feddygfa ddwywaith.
* Rhannu gwybodaeth am y person rydych yn gofalu amdano (gyda chaniatâd ysgrifenedig priodol).