skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ti a Fi Penarth - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin

Diweddariad diwethaf: 14/02/2024
Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn croesawu pob unigolyn gyda breichiau agored i’n Cylchoedd Ti a Fi gan ein bod yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg a dylid rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn wneud hynny.

Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!

Wrth fynd i’r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:

fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
chwarae gyda phob math o deganau
dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
gwrando ar storiau
chwarae gyda thywod a chlai

… a joio!

Trwy roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddwylliannol agored a llawn bywyd