skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Caffi Rhieni PAN a Galw Heibio i Rieni (CNPT ac Abertawe) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 23/04/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Caffes i Rieni yn fenter gyffrous ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer rhieni yng Ngorllewin Morgannwg.

Mae’r grwpiau’n cael eu lletya gan rieni yn y gymuned sydd wedi cael eu hyfforddi a’u hachredu, gyda chymorth gan weithiwr proffesiynol. Mae’r lansiad yn creu cyfle wyneb-yn-wyneb ichi gael blas ar fuddion y ffordd yma o weithio, lle gall rhieni a gofalwyr siarad am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae trafodaethau a gweithgareddau’n helpu i adeiladu’r ffactorau amddiffynnol isod sydd wedi profi’n gyfraniad effeithiol at gryfhau
teuluoedd:

- Cydberthnasau a chysylltiadau cymdeithasol – mae angen
ffrindiau ar rieni
- Gwybodaeth am rianta a datblygiad plant – mae bod yn rhiant
yn rhywbeth sy’n rhannol naturiol, ac yn rhannol wedi’i ddysgu
- Cefnogaeth sylweddol pan fydd ei hangen – mae angen
cefnogaeth ar bawb weithiau
- Cymhwysedd cymdeithasol ac emosiynol plant – mae angen
i rieni helpu eu plant i gyfathrebu