Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'n bosib y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn cael unrhyw un o'r canlynol:
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Elfen gwarant Credyd Pensiwn
Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm blynyddol yn fwy nag £16,190 cyn treth)
Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
Credyd Cynhwysol – rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth
Mae’r awdurdod lleol lle mae’r dysgwr yn mynd i’r ysgol (nid lle mae’n byw) yn gyfrifol am y canlynol:
darparu pryd ysgol am ddim
asesu cymhwysedd
Mae deddfwriaeth prydau ysgol am ddim yn galluogi rhieni maeth i hawlio prydau ysgol am ddim. Cyn belled â bod rhiant yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, gall y plentyn eu cael