Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r grŵp yn croesawu pobl o bob oed a gallu. O’r rheini sy’n weuwyr brofiadol i’r rheini sydd ond newydd ddechrau gweu, mae’r grŵp hwn yn lle hyfryd i ymlacio, gweithio ar eich pen eich hun yn gweu neu’n crosio wrth fwynhau cwmni pobl gyfeillgar o’r un anian sydd bob amser yn barod i rannu syniadau a rhoi ychydig o gyngor neu arweiniad.