Mae cartref gofal yn lleoliad preswyl lle mae nifer o bobl yn byw.
Mae gofal preswyl yn cael ei ddarparu'n aml ar gyfer pobl a fyddai efallai'n cael anhawster byw yn annibynnol, ond mae'n well gan rai pobl fyw mewn cyfleuster gofal preswyl am ei fod yn cynnig diogelwch, rhyngweithio cymdeithasol a chefnogaeth a chymorth parhaus nad yw ar gael trwy ofal cartref (h.y. gofal yn eich cartref eich hun). Yn aml mae gan bobl y camsyniad bod gofal preswyl yn ddewis "pan fetha popeth arall" a bod angen cartref gofal ar rywun pan fydd yn sâl iawn neu'n methu'n lân ag ymdopi, ond mae llawer o breswylwyr yna am eu bod yn mwynhau'r llawer o fanteision sydd gan gartref gofal i'w cynnig.