skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cynnig Gofal Cymru - Conwy - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 08/05/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Oes gennych chi blant tair neu bedair oed? Ydych chi’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant? Ydych chi angen cymorth gyda chostau gofal plant? O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn - gwiriwch y meini prawf cymhwyso isod.

Yn ystod y tymor mae’r cyllid yn cynnwys o leiaf 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar a hyd at 20 awr o ofal plant. Yn ystod y gwyliau gallwch dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant am hyd at 9 wythnos. (Mae nifer yr wythnosau o ofal plant yn ystod y gwyliau yn dibynnu ar ba dymor y mae eich plentyn yn dechrau’r cynnig).

Os ydych chi’n gymwys, bydd y cyllid yn dechrau o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed ac yn parhau tan ddiwedd Awst ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn bedair oed pan fydd ar fin dechrau ysgol yn llawn amser.

I ganfod mwy ac i wneud cais, ewch i: www.conwy.gov.uk/cynniggofalplant