skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Asiantau Cymunedol - PANT BANK

Diweddariad diwethaf: 19/04/2024
Cysylltwyr cymunedol / gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Asiantau Cymunedol yn gweithio gydag unigolion dros 50 oed yn Wrecsam, gan ddarparu mynediad hawdd at amrywiaeth o wybodaeth fydd
yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u hanghenion presennol ac yn y dyfodol. Y nod yw cynorthwyo pobl hŷn i deimlo’n fwy annibynnol, diogel, gyda gofal amdanynt ac i gael ansawdd bywyd gwell.
Bydd Asiantau Cymunedol yn cefnogi pobl sy’n byw yn ardaloedd Wrecsam, gan bontio’r bwlch rhwng ygymuned leol a’r sefydliadau statudol neu wirfoddol ac yn gallu cynnig cymorth neu gefnogaeth. Mae’r cynllun yn gweithio gan fod yr Asiantau’n byw’n agos at y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. O ganlyniad, maent yn adnabod y pentrefi a’r bobl yn dda.
Mae’r asiantau’n darparu trosolwg o wasanaethau sydd ar gael yn y sir ac yn cynnig cymorth i gael mynediad iddynt.