skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Canolfan Adnoddau Parc Llai

Diweddariad diwethaf: 25/04/2024
Rhywbeth arall
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Yn cyflenwi lleoliad arbennig i Gymuned Wrecsam,
Canolfan Adnoddau Parc Llai yw canolbwynt y gymuned. Mae’n ganolfan brysur, fywiog, lwyddiannus a chyfeillgar. Mae yma amrywiaeth o weithgareddau i bawb, gan gynnwys: dysgu, hyfforddi, digwyddiadau, clybiau, addysg, coginio a chwaraeon. Mae yna hyd yn oed gaffi gwych ar y safle, sy'n cynnig bwffe yn ogystal â phrydau rheolaidd.
Mae gan ganolfan adnoddau Parc Llai 4 ystafell ar gael i’w llogi yn y Ganolfan, i gyd yn unigryw ac wedi eu teilwra ar gyfer cwsmeriaid a gallwn ddarparu ystafelloedd o 4 i 70 o bobl i bob ystafell. Mae’r adeilad cyfan yn cynnig mynediad i gadeiriau olwyn ac mae gennym offer codi wedi eu gosod yn llawn mewn 2 o'n toiledau anabl. Rydym yn cynnig Wi-Fi am ddim drwy'r adeilad cyfan ac offer TGCh i’w ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd.

#Dementia