Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) ar gael i bobl 20+ oed ledled Sir y Fflint nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.Mae CfW+ yn rhaglen wirfoddol, sy'n cynnig cymorth, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant mewn perthynas â dod o hyd i waith, trwy wasanaeth 1-2-1 gan ein tîm o fentoriaid ymroddedig.Mae ein tîm ar waith ledled Sir y Fflint i ddarparu cymorth, i bobl o bob oed a gallu gymryd rhan mewn cymwysterau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, gwella sgiliau hanfodol, hyder ac wrth sicrhau cyfleoedd gwaith neu hyfforddiant.Gall mentoriaid gwrdd â chi mewn lleoliadau cymunedol a llyfrgelloedd sy'n addas i chi, sy'n golygu llai o deithio i ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnoch.Os ydych chi'n credu y gallwn eich helpu chi i chwilio am waith, hyfforddiant neu gymwysterau, cysylltwch â ni.
Mae CfW+ ar agor i bawb ledled Sir y Fflint nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant cyn belled â'u bod yn 20+.
Nac oes
Gall unrhyw un gysylltu â ni'n uniongyrchol, neu os yw'n well ganddynt atgyfeiriad trydydd parti yna gall asiantaethau fel adrannau'r cyngor, meddygon teulu a Hyfforddwyr Gwaith JCP gyfeirio atom ar eu rhan.
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru