skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaethau Teleofal - Cyngor Gwynedd - Teleofal

Diweddariad diwethaf: 23/08/2024
Teleofal Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae teleofal yn wasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn eich cartref.

Ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion yw teleofal. Mae’n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn eich cartref gan eich galluogi i fyw bywyd mor annibynnol â phosib.