skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cydweithio i ddod yn Ddinas sy'n Deall Niwrowahaniaeth - Grŵp Ffocws Ar-lein - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 19/04/2024
Digwyddiad
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Caerdydd i ddod yn Ddinas sy’n deall Niwrowahaniaeth, byddwn yn cynnal grwpiau ffocws ar-lein, ar Microsoft Teams, wedi'u hanelu at unigolion Niwrowahanol, eu rhieni / gofalwyr, eiriolwyr a gweithwyr proffesiynol.

Maen nhw’n cynnal nifer o sesiynau ar-lein ar wahanol bynciau gan gynnwys:
• Gweithgareddau Cymdeithasol
• Addysg a’r Gweithle
• Gwybodaeth a Chymorth
• Rhagfarn a Stigma
• Amgylcheddau Cynhwysol

Bydd gwybodaeth ac adborth a drafodwyd yn y grwpiau ffocws yn cael eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaeth ar gyfer y ddinas gyfan ar gyfer Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth.