Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Mae’r Hwb Iechyd Meddwl a Llesiant yn darparu prosiect sy’n seiliedig ar adferiad ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael eu affeithio gan iechyd meddwl gwael.Rydym yn arddel dull holistig, sy’n defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion sy’n hybu adferiad, grymuso, a byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae ein prosiect hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a helpu i leihau gwahaniaethu ac anghydraddoldeb. Gallwn gynnig cefnogaeth sy’n deall ac nad yw’n feirniadol mewn meysydd fel:Cefnogaeth ac eiriolaeth unigolCefnogaeth, gwybodaeth a chyngor cymunedolCyfeillio a chyfleoedd gwirfoddoliCyfeirio ymlaen ar gyfer unigolion, aelodau’r teulu agofalwyrYmweliadau â’r ysbyty ar gyfer cleifion mewnolCefnogaeth gymunedolGwybodaeth a chyngor#IechydMeddwl
Rydym yn gweithio gyda’r bobl ganlynol?Pobl o Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnigrwydd LleiafrifoledigCeiswyr lloches / ffoaduriaid16+
Nac oes
Pwy gaiff gyfeirio? Chi (hunangyfeirio) Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol Gweithwyr cefnogaeth tai Gwasanaethau Cymdeithasol Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) Meddygon teulu a gweithwyr iechyd eraill Gwasanaethau prawf Sefydliadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches
https://diversecymru.org.uk/bme-mental-health/?lang=cy
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru