skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwynedd Mental Health Teams - Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl

Diweddariad diwethaf: 08/05/2024
Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un ar unrhyw amser. Mae ein timau iechyd meddwl cymunedol yn cynnig cefnogaeth a gwasanaethau i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr.

Pwrpas Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, ble mae’r gwasanaeth iechyd meddwl yn eistedd, yw galluogi Oedolion Gwynedd i 'fyw fy mywyd fel rwyf eisiau ei fyw'

Beth yw'r gwasanaethau sydd gennym?

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys, therapyddion galwedigaethol a seicolegwyr.

Gallwn:

- ddarparu triniaeth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl tymor byr neu anghenion tymor hir mwy cymhleth eich helpu i gael cymorth personol tymor hir i'ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib.
- cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol.
- cefnogi gofalwyr.