Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i gleifion sy'n bodloni meini prawf cymhwyster yn seiliedig ar eu hanghenion meddygol yn unig.
Gallech fod yn gymwys am gludiant ysbyty os:
- Os ydych yn cael triniaeth dialysis neu ganser yn rheolaidd;
- Mae angen stretsier arnoch ar gyfer y daith;
- Mae angen ocsigen arnoch ar gyfer y daith;
- Mae angen i chi deithio yn eich cadair olwyn eich hun;
- Nid ydych yn gallu cerdded heb gymorth parhaus;
- Nad ydych yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod gennych gyflwr meddygol a fyddai'n peryglu eich urddas;
- Os oes gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu;
- Byddwch yn profi sgîl-effeithiau o ganlyniad i'r driniaeth ar gyfer eich cyflwr.