skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Magic Moments in Care Homes

Diweddariad diwethaf: 05/06/2024
Rhywbeth arall
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae llyfryn a gyhoeddwyd gan Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe yn ceisio amlygu’r 'eiliadau hud' sy’n digwydd mewn cartrefi gofal sydd yn aml yn mynd o dan y radar.

Mae’r llyfr yn cynnwys 50 o ‘eiliadau hud’ mewn cartrefi gofal, a allai fel arall wedi mynd heibio heb i neb sylwi.

Mae’r prosiect wedi darganfod bod rhannu a thrafod straeon yr ‘eiliad hud’ byr yma yn annog ac yn ysbrydoli pobl eraill i greu eu ‘heiliadau hud’ eu hunain mewn ffyrdd na allai cynlluniau gofal, rheolau a rheoliadau byth wneud.

Mae’r llyfryn ‘eiliadau hud’ yn rhoi enghreifftiau o fywyd go iawn am sut mae pethau bach, fel galluogi preswylydd i helpu yn y gegin, yn gallu rhoi ymdeimlad o werth a phwrpas i unigolion, yn ogystal â chynnig sicrwydd eu bod nhw’n bwysig a bod ganddyn nhw rywbeth gwerthfawr i’w rannu o hyd.

Mae’r llyfryn ar gael yn Saesneg yn unig.