skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro (VCRS) - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 26/01/2024
Iechyd Cymunedol
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae VCRS yn wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig a redir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg. Lleolir ein tîm yn Ysbyty y Barri ac mae’n cynnwys amrywiaeth o weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol.

Rydym yn cynnig gwasanaeth am ddim am hyd at 6 wythnos i'ch galluogi i ddod adref o’r ysbyty gyda'r cymorth y mae ei angen arnoch. Rydym hefyd yn cefnogi pobl yn y cartref i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty. Ar ôl asesu eich anghenion a’ch nodau, byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu rhaglen ail-alluogi i fwyhau ein hannibyniaeth.

Gall hyn gynnwys cymorth gyda thasgau bob dydd fel gofal personol, gwneud prydau, tasgau yn y cartref a siopa. Rydym yn gwneud pethau 'gyda' chi ac nid 'ar eich cyfer' chi i adeiladu eich sgiliau a'ch hyder.

Gallwch gael eich asesu fel rhywun a fydd yn manteisio ar therapi gan aelod o'n tîm a all gynnwys ymarferion, ymarfer sgiliau bob dydd neu gyngor maethol.