skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Tim Datblygu Chwarae Bro Morgannwg - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Diweddariad diwethaf: 31/01/2024
Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ein nod yw cynyddu nifer y plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sy’n gallu cael mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd. Cyflawnir hyn mewn dwy ffordd:
(1) Darparu gwasanaethau chwarae'n uniongyrchol trwy gyfleoedd fel cynlluniau chwarae, sesiynau Ceidwad Chwarae, sesiynau a digwyddiadau Ysgolion Fforest

(2) Hwyluso eraill i ddarparu – gallwn gynorthwyo sefydliadau ac unigolion i gynnig eu gwasanaethau eu hunain trwy helpu gyda meysydd fel hyfforddiant, mentora, datblygu perthnasau a chynnig offer.

Rydym yn gyfrifol am gynnal cynlluniau chwarae a chynlluniau glaslanciau Anabledd a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf sydd ar gael yn ystod gwyliau’r haf i blant a phobl ifanc anabl. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr sy’n cynnwys mynediad at ofal personol, nyrs, offer arbenigol a staff sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc anabl.

Yn ogystal ni sy’n arwain y broses Asesiad Digonolrwydd Chwarae ym Mro Morgannwg