skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Safer Wales Dyn Project

Diweddariad diwethaf: 15/03/2024
Rhywbeth arall Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae prosiect Safer Wales Dyn yn cynnig cefnogaeth i ddynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thraws sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig gan bartner.

Mae llinell gymorth Safer Wales Dyn yn gadael i chi siarad yn gyfrinachol â rhywun sy’n gallu gwrando arnoch chi heb farnu’ch sefyllfa. Gallwn ni roi cefnogaeth i chi ddelio â’r problemau rydych yn eu hwynebu a dweud wrthych chi a oes unrhyw wasanaethau sydd ar gael yn barod yn eich ardal chi.

Mae gwasanaeth ffôn ateb 24 awr ar gael pan fydd y llinell gymorth ar gau, ond os oes angen i chi siarad â rhywun gallwch chi gysylltu â Llinell Gymorth 24 awr Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan hefyd ar 0808 80 10 800 neu ewch i www.wdah.org.