skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Llys Emlyn Williams Supported Housing - Tai

Diweddariad diwethaf: 27/12/2023
Tai Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Llys Emlyn Williams yn brosiect 12 gwely yn Nhreffynnon i ddynion a merched sengl rhwng 16 a 25 oed.

Mae Llys Emlyn Williams yn cynnig llety o safon uchel gyda chyfleusterau ymolchi i’w rhannu yn ogystal â chyfleusterau cymunedol fel lolfa i breswylwyr, cegin, a gardd.

Rydym yn darparu cefnogaeth 24 awr y dydd mewn adeiladau diogel a’r cyfle i dorri’n rhydd o ffordd o fyw ddigartref.

Ar eich ymweliad cyntaf â Llys Emlyn Williams byddwn yn eich cyfarfod i asesu eich anghenion a risgiau. Rydym yn gwneud hyn fel ein bod yn medru canfod a allwn ni ddiwallu eich holl anghenion.

Mae adegau pan na fyddwn yn medru cartrefu rhai pobl, os yw hyn yn wir byddwn yn esbonio ein rhesymau, a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu i ddod o hyd i lety mwy addas. Trwy gydol eich arhosiad yn Llys Emlyn Williams bydd ein staff yn eich helpu i weithio trwy Gynllun Cefnogaeth Unigol, a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau a’ch dyheadau.