skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
Rhywbeth arall

Moneyline Cymru

Diweddariad diwethaf: 19/09/2023
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Cwmni di-elw yw Moneyline Cymru sy’n cynnig benthyciadau fforddiadwy gydag ad-daliadau sefydlog sy’n cael eu casglu’n uniongyrchol o’ch cyfrif banc.

Cynigiwn fenthyciad sy’n deg i gwsmeriaid, gyda gwasanaeth personol, hyblygrwydd, dim costau cudd a thaliadau hylaw.
Mae ein benthyciadau byrdymor gwerth isel yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i gwsmer sydd heb fawr o ddewisiadau eraill i sicrhau credyd. Anogwn gwsmeriaid i gynilo ochr yn ochr â’u benthyciad gyda’n cynllun cynilo "talgrynnwch i fyny" a thrwy ein rhwydweithiau lleol, gallwn ni gyfeirio’n cwsmeriaid at ystod eang o wasanaethau a chyngor am ddim am unrhyw beth o fudd-daliadau, biliau’r cartref neu gyflenwyr lleol pethau mae arnyn nhw eu hangen.