skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Operation Net Safe – Mynd i’r afael â chamdrin plant yn rhywiol a chamfanteisio arnynt ar-lein

Diweddariad diwethaf: 05/06/2024
Rhywbeth arall Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Fel rhan o’n hymrwymiad i gadw plant yn ddiogel, rydym wedi datblygu ymgyrch Operation Net Safe sy’n targedu pobl sy’n creu ac yn edrych ar ddelweddau rhywiol o bobl ifanc dan 18 oed ac yn eu rhannu ar-lein.

Mae Operation Net Safe yn ymgyrch drwy Gymru gyfan gyda thimau arbenigol o Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddelio â’r bygythiad, y risg a’r niwed sy’n deillio o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u camdrin yn rhywiol, a lleihau hynny.

Mae’r ymgyrch hon yn cyflawni amcanion Heddlu De Cymru a Chynllun Gostwng Troseddu 2016/21 a’n blaenoriaeth i ‘weithio i ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau’, a Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan i Fynd i’r Afael â Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant.