skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Y Wallich - Gwasanaeth Datrysiadau Ceredigion - Tai

Diweddariad diwethaf: 22/04/2024
Tai Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Gall y Gwasanaeth Datrysiadau ydy helpu pobl ddod i hyd at lety addas, rheoli ôl-ddyledion rhent neu ddyledion eraill. Helpu hawlio budd-daliadau perthnasol neu ddatrys unrhyw broblemau sy’n ymwneud â hawlio budd-daliadau presennol. Help i gael mynediad at wasanaethau iechyd neu gamddefnyddio sylweddau a’u cyfeirio at asiantaethau perthnasol eraill. Cynigir apwyntiadau yn y gymuned neu yng nghartref yr unigolyn.

Rydym hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gydag unigolion sy’n cysgu allan. Mae Gweithiwr Cymorth yn cynnig cefnogaeth a chyngor i geisio ail-letya unigolion, ond hefyd cymorth ymarferol fel sachau cysgu, pecynnau ar gyfer rhai sy’n cysgu allan, dillad a rhoddion bwyd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i hwyluso bywyd unigolion sy’n cysgu allan drwy sicrhau bod mynediad at gyfleusterau golchi dillad, cawod neu faddon a bwyd cynnes.