skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Dechrau'n Deg Ceredigion - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 18/04/2024
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau’n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddarparu mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan 4 oed. Mae gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael eu darparu naill ai wyneb yn wyneb, mewn grwpiau, ar-lein, neu dros y ffôn. #DechraunDegCeredigion yn darparu:
- Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar. Mae gennym Dîm Ymwelwyr Iechyd sydd yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Teuluoedd, sydd yn medru cynnig gwasanaeth mwy dwys pan fo angen. Rhif ffôn Hwb Ymwelwyr Iechyd: 07970 501 609 (9.yb-5yp, Llun-Gwener).
- Gofal Plant Rhan Amser o Ansawdd Uchel wedi ei ariannu ar gyfer plant 2-3 mlwydd oed. Cynnigir gofal plant mewn lleoliad o'ch dewis chi am 2 awr a hanner bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.
- Cymorth Rhianta trwy gwaith 1:1 neu trwy grwpiau lleol.
- Cymorth i ddatblygu sgiliau iaith cynnar, cyfathrebu a siarad trwy gwaith 1:1 neu grŵp i fagu sgiliau ac ymwybyddiaeth.

#ODan5Ceredigion #DechraunDegCeredigion #RhiantaCeredigion