skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg

Cardiff Parenting Parent Nurturing Programme (18 months – 12 years) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 02/02/2023
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Yn helpu oedolion i ddeall a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad a bod yn fwy cadarnhaol a meithringar yn eu perthynas â’u plant a’i gilydd. Mae’n annog agwedd at berthnasau sy’n rhoi i blant ac oedolion ddechrau emosiynol iach yn eu bywydau a’u dysgu.
Fel blociau adeiladu sgiliau iechyd emosiynol a pherthynas, mae'r Rhaglen Feithrin yn defnyddio'r Pedwar Adeiladwaith:
Hunanymwybyddiaeth
Disgwyliadau priodol
Disgyblaeth gadarnhaol
Empathi

Mae’r rhaglen yn cwmpasu
Deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn
Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiadau (ein rhai ni a’u rhai nhw)
Ystyried dulliau gwahanol o ddisgyblaethu
Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth ymysg plant
Pwysigrwydd gofalu am ein hunain