Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae rhai pobl yn ei chael yn anoddach nag eraill i ddod o hyd i waith a chadw swydd; mae sawl rheswm dros hyn. Mae rhai pobl yn gweld perthnasau'n anodd a gall hyn ei wneud yn anodd cael ymlaen â chydweithwyr a goruchwylwyr, gan barhau i gael yr hyn sydd ei angen arnynt. Mae rhai pobl yn profi emosiynau cryf sy'n 'dod allan o unlle' ac yn cymryd llawer o amser i fynd neu'n eich gadael yn teimlo fel petaech wedi'ch llethu. Weithiau gall y problemau hyn arwain at anawsterau yn magu hyder yn y gwaith a rheoli pwysau gwaith.
18 mlwydd oed, o leiaf, mae gennych fynediad at ddyfais sydd â chamera a chysylltiad â’r rhyngrwyd,rydych chi'n ddi-waith NEU gyflogedig ond ar hyn o bryd mae Meddyg Teulu wedi nodi nad ydych yn feddygol ffit i weithio (oherwydd rhesymau iechyd meddwl) AC nid oes gennych unrhyw gynlluniau i ddychwelyd i'r gwaith o fewn y 3 wythnos nesaf NEU rydych yn gyflogedig ond yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos, A, rydych yn ennill llai na £140 yr wythnos.